|
Return to Index Major Edgar Jones TEYRNGED gan Alun Oldfield-Davifes a ddarlledwyd yng ngwasnaeth Cymreig y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Sadwrn, Mai 2, 1953, am 7.0 p.m.
Ar waethaf ei waeledd yn ystod y misoedd diwethaf bu farw Major Edgar Jones yn ddyn ifanc. Dyna'r peth amlycaf amdano a dyna'r peth oedd yn taro pawb a'i gwelodd ac a fwynhaodd ei gwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf - ei ieuengrwydd. Eang iawn fu cylch ei wasanaeth a'i gymwynasgarwch ar hyd ei oes faith, ond fe soniaf i yn awr am ei gysylltiad a'r Gorfforaeth Ddarlledu. Yr oedd ef yn un o'r rhai cyntaf yn ein plith i ganfod cymaint y gallai darlledu ddylanwadu er gwell neu er gwaeth ar fywyd Cymru ac yr oedd yn hollol nodweddiadol ohono mai trwy gyd-weithio a chynorthwyo yn y dirgel yn hytrach na trwy ymfflamychu ac areithio yn yr amlwg y gwelai Edgar Jones ei ffordd i ddangos ei ddiddordeb. Bu'n gynghorwr doeth chytbwys yn y blynyddoedd anodd cyn sefydlu Cymru fel uned darlledu ar wahan i Orllewin Lloegr ac wedi hynny llafuriodd yn ddiwyd i sylfaenu darllediauau Cymraeg I Ysgolion ac i drefnu darlledu gwasanaethau crefyddol. Ond yr oedd yr barod ei gymorth a'i gymwynas ymhob adran o’r gwaith - cymerai ran yn y stiwdio os byddai galw, darllenai'r newyddion, cyflwynodd amryw byd o siaradwyr ar y radio, ac yr oedd stamp ei gymeriad bonheddig ar bobeth a wnai. Ifanc ei ysbryd, eang ei ddiddiordebau as charedig ei galon, fe ymhyfrydai yn y newydd-beth hwn - y radio, a charai gwmni'r pobl ifainc a ymgasglai yn y Ty Darlledu. Hoffent hwy ei gwmni yntau yr oedd neb yn cael gwell croeso na Major i ymuno â'r cmwni dros gwpanned o de yn y cântin neu i chware tennis ar fwrdd yn y clwb. Anodd oedd credu ei fod yn hen o ran oedran ac yntau hyd yn ddiweddar mor hoenus a sionc o ran corff ac ysbryd, a chaem dipyn o sioc ar ganol sgwrs am beldroed neu chware arall i 'w glywed yn sydyn yn sôn am ryw gem a fu yn 1882 neu 1883, a deall ei fod yn adnabod cewri o 'r oesau a fu. Gwr caredig ydoedd heb fymryn o falais yn ei galon.Unwaith erioed y gwelais i ef wedi colli ei dymer ond ni allai fod yn gas hyd yn oed y pryd hynny. Yr oedd clymblaid o wŷr wedi cipio pob swydd a sedd ar bwyllgor o Gymeideithas a oedd yn agos iawn at galon Major Edgar, ac yr oedd yn ddig nid am eu bod wedi ennll y dydd ond am y gwyddai nad budd a lles y gymdeithas honno oedd yn eu cymell ond eu buddiannau gwleidyddol hwy eu hunain, ac ni fu llewyrch ar y gymdeithas honno byth wedyn. Yr oedd yn gas ganddo hen driciau cyfrwys dichellgar. Yr oedd ef ei hun mor agored, mor onest, mor ddidwyll a phlentyn bach - hyn yn ddiau a'i cadwodd yn ifanc a hoyw hyd y diwedd. Hefyd Loss to Welsh Radio
|